Ymgyrchoedd
Patatoi am y newid i ddigidol
Fel rhan o baratoadau S4C i'r newid i ddigidol, bu Huw yn gyfrifol am strategaeth marchnata a chyfathrebu ar gyfer Cyw, y gwasanaeth newydd ar gyfer plant cyn oedran ysgol.
Roedd sylw eang am y lansiad yn y cyfryngau Cymraeg ac hefyd drwy'r DU, yn cynnyws eitemau ar BBC Cymru, rhaglen Today ar BBC Radio 4, BBC Radio Five Live a gwefannau newyddion. Gafodd yr ymgyrch ei nomineiddio yn y categori draws-gyfrwng yn gwobrau marchnata Promax UK 2008.
Bu hefyd yn arwain cefnogaeth cyfathrebu ar gyfer ail frandio S4C yn ogystal ag ar gyfer dathlu pen blwydd y Sianel yn 25ain.
Yn ogystal, bu'n goruchwylio cyflwyniad S4/Clic, y gwasanaeth gwylio ar wefan y sianel.
Dyfeisiodd gynllun cyfathrebu S4C ar gyfer y newid i'r digidol yng Nghymru yn 2009/10.
Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd

Yn ystod ei yrfa eang ei hamrediad yn y BBC bu Huw yn trefnu'r wasg a chyhoeddusrwydd ar gyfer ymateb y BBC i ddatganoli yng Nghymru a hefyd lansiodd y sianel deledu BBC Choice Wales.
Bu'n rhedeg ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i amrediad eang o raglenni, o Plant mewn Angen y BBC i Ganwr y Byd Caerdydd, o Songs of Praise i Crimewatch UK.
Bu hefyd yn helpu i hyrwyddo darllediadu cenedlaethol mawr y BBC yn cynnys y Campau Olympaidd, Etholiadau Cyffredinol a phriodasai brenhinol.
Hyrwyddo Darlledu Cyhoeddus
Yn Ofcom bu Huw yn rheoli cyfathrebiadau cyfryngau ar gyfer ei adolygiad cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ei Gôd Darlledu cyntaf a'i ymgynghoriad i hysbysebu bwyd i blant.

- 'Ofcom review of public service television broadcasting'
- 'Ofcom review of public service television broadcasting'
- 'Programming for the nations and regions'
- 'Ofcom publishes new Broadcasting Code'
- 'Television adverstising of food and drink products to children'
Rheolodd ddigwyddiad lansio Ofcom yn Llundain a fynychwyd gan newyddiadurwyr, arweinwyr diwydiant a rhanddeiliaid eraill.
Fel Pennaeth Materion Cyhoeddus ITC bu Huw yn trefnu mentrau lobio yn San Steffan fel rhan o weithgarwch y rheoleiddiwr ar y Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 - gan helpu i osod ITC wrth galon y drafodaeth ynglŷn â dyfodol DGC.
Roedd hwn yn cynnwys gosod erthyglau yn y wasg o lyfrynnau dylynwadol yr ITC, Culture & Communications a Television & Beyond.